Nội dung được cung cấp bởi Chris Jones. Tất cả nội dung podcast bao gồm các tập, đồ họa và mô tả podcast đều được Chris Jones hoặc đối tác nền tảng podcast của họ tải lên và cung cấp trực tiếp. Nếu bạn cho rằng ai đó đang sử dụng tác phẩm có bản quyền của bạn mà không có sự cho phép của bạn, bạn có thể làm theo quy trình được nêu ở đây https://vi.player.fm/legal.
Player FM - Ứng dụng Podcast Chuyển sang chế độ ngoại tuyến với ứng dụng Player FM !
Happy Valentine’s Day! You know what that means: We have a brand new season of Love Is Blind to devour. Courtney Revolution (The Circle) joins host Chris Burns to delight in all of the pod romances and love triangles. Plus, Meg joins the podcast to debrief the Madison-Mason-Meg love triangle. Leave us a voice message at www.speakpipe.com/WeHaveTheReceipts Text us at (929) 487-3621 DM Chris @FatCarrieBradshaw on Instagram Follow We Have The Receipts wherever you listen, so you never miss an episode. Listen to more from Netflix Podcasts.…
Nội dung được cung cấp bởi Chris Jones. Tất cả nội dung podcast bao gồm các tập, đồ họa và mô tả podcast đều được Chris Jones hoặc đối tác nền tảng podcast của họ tải lên và cung cấp trực tiếp. Nếu bạn cho rằng ai đó đang sử dụng tác phẩm có bản quyền của bạn mà không có sự cho phép của bạn, bạn có thể làm theo quy trình được nêu ở đây https://vi.player.fm/legal.
Cyfres o gyfweliadau onest, sgyrsiol a naturiol gyda rai o gymeriadau mwyaf doniol, diddorol, ysbrydoledig a..... boncyrs Cymru. (gydag ambell 'i air anweddus!). Rhif 1......STIFYN PARRI. Mae pawb yn nabod Stifyn Parri ond sut mae'r actor, cyflwynydd, gwr bisnes a siaradwr wedi ymdopi â'r cyfnod diweddar? Sut brofiad oedd hi i ddod allan o'r ''spenj'' (gair Rhôs mae'n debyg)? Sut un yw Shirley Bassey go iawn? Ac oes gan iâr bwrs? 🤔
Nội dung được cung cấp bởi Chris Jones. Tất cả nội dung podcast bao gồm các tập, đồ họa và mô tả podcast đều được Chris Jones hoặc đối tác nền tảng podcast của họ tải lên và cung cấp trực tiếp. Nếu bạn cho rằng ai đó đang sử dụng tác phẩm có bản quyền của bạn mà không có sự cho phép của bạn, bạn có thể làm theo quy trình được nêu ở đây https://vi.player.fm/legal.
Cyfres o gyfweliadau onest, sgyrsiol a naturiol gyda rai o gymeriadau mwyaf doniol, diddorol, ysbrydoledig a..... boncyrs Cymru. (gydag ambell 'i air anweddus!). Rhif 1......STIFYN PARRI. Mae pawb yn nabod Stifyn Parri ond sut mae'r actor, cyflwynydd, gwr bisnes a siaradwr wedi ymdopi â'r cyfnod diweddar? Sut brofiad oedd hi i ddod allan o'r ''spenj'' (gair Rhôs mae'n debyg)? Sut un yw Shirley Bassey go iawn? Ac oes gan iâr bwrs? 🤔
Y gantores dalentog a hyfryd Gwawr Edwards-Phillips sy'n sgwrsio â fi wythnos hon am ei bywyd, gyrfa, cerddoriaeth, opera a llawer mwy. Gwawr yw un o sopranos mwyaf dawnus Cymru, sydd wedi symud nôl i Geredigion yn ddiweddar i fagu'r plant ac i arall gyfeirio ar fferm ei theulu. Mae Cymeriadau Cymru yn cymeryd hoe fach am rhai wythnosau. Dwi di sgwrsio â dros 130 o bobl amrywiol, dalentog a diddorol erbyn hyn ar y podlediad a dwi angen hoe fach i ail ystyried, i ail feddwl ac i chwilio am fwy o Gymeriadau!…
Fi'n nabod Mari Grug ers rhai blynyddoedd bellach, y ddau ohonom ni ar un tro yn rhan o'r tîm tywydd ar S4C, y tîm gorau yn fy marn i (gydag Erin Roberts). Erbyn hyn wrth gwrs mae Mari yn un o wynebau cyfarwydd y sianel ac yn gyflwynwraig naturiol a thalentog ac roedd hi'n bleser cael sgwrsio â hi am bopeth dan haul.....a choeliwch chi fi, ma hi yn gallu sgwrsio!!!😂…
Yn ddiweddar, bu farw cymeriad mawr go iawn. Roedd Phil Wyman yn wreiddiol o Galifornia. Yn athrylith, gweinidog, awdur a bardd, bu Phil yn byw yng Nghaernarfon, yn dysgu Cymraeg, yn codi ymwybyddiaeth o'i ffydd, Cymru a'r iaith, ac yn bwriadu teithio dros Gymru gyfan o fis Awst eleni, yn siarad Cymraeg yn unig ac yn hyrwyddo'r iaith. Yn anffodus, bu farw Phil yng ngŵyl Y Gelli ac mae pawb yn cydymdeimlo’n fawr gyda'i deulu a'i ffrindiau yng Nghymru ag America. Fe ges i'r cyfle i sgwrsio â Phil rhai misoedd yn ôl am ei fywyd lliwgar a'r holl bethau amrywiol, gan gynnwys dysgu Cymraeg, yn ei fywyd. Fe wnes i ddileu'r cyfweliad ar gyfer y podlediad am gyfnod allan o barch ond mae mab Phil, Elijah, wedi gofyn i fi ei ddefnyddio erbyn hyn. Felly roedd hi'n bleser ac yn anrhydedd i gael siarad ag un o'r bobl fwyaf diddorol, deallus, cefnogol a hwyl dwi erioed di cael ar y podlediad. Gorffwyswch mewn hedd, Phil Wyman a diolch am bopeth.…
Elin Prydderch yw fy ngwraig gwadd wythnos hon. Mae Elin yn gweithio fel maethydd a hyfforddwraig ac yn arbenigo mewn rhoi cymorth a chyngor i fenywod sy'n dioddef o'r peri-menopause a'r menopause. Mae ganddi ei busnes ei hun erbyn hyn ac mae hi'n amlwg yn byw bywyd iach ei hun! Iach yw siarad am y menopause dwi'n meddwl, er gobeithio y gwneith hi faddau i mi am ofyn ambell i gwestiwn ''gwrwaidd'' digon gwirion! Ei safle we yw www.elinprydderch.com…
Yn ddiweddar iawn fe ddaeth Millie-Mae Adams o Gaerdydd yn Miss Cymru/Wales 2023! Ond mae 'na tipyn fwy i Millie na hyn. Yn fyfyrwraig yn astudio meddyginiaeth ym Mhrifysgol Exeter, mae Millie yn lysgengadwraig i elusen Calan DVS ac yn gwirfoddoli ac yn cefnogi elusennau amrywiol, yn ogystal â hybu'r iaith Gymraeg! Llongyfarchiadau mawr i'r wraig ddiymhongar, garedig a deallus hon a phob lwc iddi yn ystod ei hamser fel brenhines Cymru!…
I fyd gwleidyddiaeth wythnos hon ar yn podlediad a sgwrs ddifyr dros ben gydag aelod seneddol Plaid Cymru ar gyfer Canol De Cymru, Heledd Fychan. Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Heledd yn byw ym Mhontypridd bellach ac yn cynrychioli’r ardal yn y senedd. Sgwrs am ei gyrfa, ei haddysg, dylanwadau, gwleidyddiaeth, y senedd, ei hangerddau a llawer mwy, yn ogystal â chwis am Bonty a 10 cwestiwn chwim . Diolch o galon iddi am ei hamser! Unwaith eto, sgwrs gyda pherson deallus, difyr, a diddorol!…
Polymath go iawn yw Cefin Roberts. Teledu, radio, cerddoriaeth, theatr, sioeau cerdd, ysgol gerdd, awdur.....mae Cefin 'di bod yn wyneb ac yn ffigwr cyfarwydd, talentog a dylanwadol ers rhai blynyddoedd bellach a fy mhleser i oedd cael sgwrsio â fo ar y podlediad. O ddyddiau cynnar S4C gyda Hapnod, i Ysgol berfformio Glanaethwy, mae Cefin di neud y cyfan ac wrthi'n sgrifennu ei hunangofiant ar hyn o bryd. Mwynhewch !…
Croeso nol i Gymeriadau Cymru ar ôl brêc bach dros gyfnod y Pasg! A dechrau gyda gwraig gwadd ifanc sy'n fam ac yn wraig ac yn gweithio i Fudiad Meithrin, sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn wreiddiol.......o wlad Brunei! Ie, Brunei, ar ynys Borneo yn y Môr Tawel. Ac os nad ydy hynny'n ddigon, ma' hi hefyd wedi cyhoeddu cyfrol o farddoniaeth am gariad, yn y Gymraeg, o'r enw Hen Fanila. Mwynhewch fy sgwrs gyda fy nghymeriad wythnos hon, Ezzati Araffin.…
Maint o actorion, yn enwedig rhai sy'n siarad Cymraeg, sy di bod ar nid yn unig Eastenders, ond Coronation Street hefyd!? Yn ogystal â bod yn wyneb cyfarwydd iawn ar S4C wrth gwrs, ma'r actor Richard Elis, wedi bod yn actio yn y ddwy iaith ers rhai blynyddoedd bellach. Ond maint oedd yn gwybod mai Richard oedd y llais Cymraeg yn Big Brother? Sgwrs wych gyda'r gwr o Sir Gâr am ei fagwraeth, addysg, actio, ei yrfa amrywiol a lliwgar a llawer mwy.…
Dim rhyw lawer o bobl sy di gweithio mewn cymaint o feysydd â fy ngwraig arbennig iawn wythnos hon. Teledu, radio, papurau newydd, cylchgronau, dysgu a gwleidyddiaeth. Beca Brown yw un o'r bobl fwyaf amryddawn a deallus dwi di gyfarfod ac mi wnes i fwynhau clywed am ei bywyd, ei magwraeth, ei gyrfaoedd amrywiol a'i newid cyfeiriad i fyd gwleidyddiaeth fel cynghorydd Plaid Cymru yng nghyngor Sir Gwynedd. Lot o sgwrsio diddorol am lot o bynciau.…
Un o ddylanwadau cerddorol mwyaf Cymru sy'n sgwrsio â fi wythnos hon ar y podlediad. Mae Neil Rosser yn ganwr ac yn gyfansoddwr ac yn un o hoelion wyth y sîn gerddorol Gymraeg a phleser odd cael clywed am ei yrfa, ei gerddoriaeth, dylanwadau, chwarae'n fyw a llawer mwy. A chofiwch chwilio am gigs a cherddoriaeth Pwdin Reis!…
Dwi wrth fy modd yn siarad â phobl talentog a chreadigol a phobl sy'n dilyn cyfeiriad ei hunan. Mae Llio Millward wedi bod yn actores (cofio 3 chwaer?) ac yn gantores ers cryn dipyn erbyn hyn ac wrthi'n recordio ac yn perfformio yn Llundain. Nes i wir fwynhau ein sgwrs ar y podlediad yn ddiweddar, yn trafod ei gyrfa, cerddoriaeth, byw yn Aberystwyth, Caerdydd a Llundain, ei thad Teddy, ei henw, The Crown, a llawer mwy. Diolch o galon iddi am fod mor onest a chofiwch ar y penodau i gyd ar Spotify. (ac ewch i wrando ar gerddoriaeth Llio ar Spotify hefyd)…
Felly pwy sy'n neud yoga? Pwy sydd wedi meddwl neud yoga ond heb fentro? Athrawes yoga Laura Wyn sy'n siarad â fi ar y bennod nesaf o Cymeriadau Cymru ac i ni'n siarad am ei bywyd diddorol hi, ei dylanwadau, iechyd meddwl a chorfforol, ac wrth gwrs, am yoga! Braf yw cael sgwrsio â phobl neis a braf iawn oedd dod i nabod Laura.…
Rhywun sydd ar frig ei fyd, yw'r telynor Dylan Cernyw a braf oedd cael siarad â fe yn ddiweddar, o'i gartref, am ei yrfa, ei fagwraeth, telynorion a cherddoriaeth, ei ddylanwadau ac wrth gwrs, am y delyn. Pennod newydd o Cymeriadau Cymru gyda thalent byd enwog.
Merch o Grymych yn wreiddiol yw Mirain Iwerydd ond bellach yn gwneud enw iddi hun ar Radio Cymru (1 a 2) yn cyflwyno sioeau cerddoriaeth ac roedd hi'n braf i gael siarad gyda hi yn ddiweddar am ei magwraeth, clwb ffermwyr ifanc, ei gyrfa, dylanwadau a chyflwyno, yn ogystal â lot o hwyl yn ateb y 10 cwestiwn chwim a'r cwis. Cadwch lygad mas am Mirain. Ma hon yn mynd i fod yn enw i'r dyfodol!…
Chào mừng bạn đến với Player FM!
Player FM đang quét trang web để tìm các podcast chất lượng cao cho bạn thưởng thức ngay bây giờ. Đây là ứng dụng podcast tốt nhất và hoạt động trên Android, iPhone và web. Đăng ký để đồng bộ các theo dõi trên tất cả thiết bị.
Tham gia ứng dụng podcast tốt nhất thế giới để quản lý các chương trình yêu thích của bạn trực tuyến và nghe ngoại tuyến trên ứng dụng Android và iOS. Nó miễn phí và dễ sử dụng!